Yws Gwynedd - Sebona Fi (review)

Mae cerddoriaeth yn rhywbeth sydd yn atgyfnerthu teimladau, ac maent yn fodd o gysylltu gyda’r byd o’ch cwmpas trwy gydymdeimlo neu gydrannu. I rai, mae cerddoriaeth yn ffordd i fedru siarad heb angen defnyddio geiriau eich hunan, neu efallai maent yn adlewyrchu teimladau o hiraeth. Wrth gwrs, weithiau mae pwrpas gerddoriaeth yn llai na hynny - efallai maent ddim ond yn rhywbeth sydd yn chwarae yn y cefndir i fedru osgoi tawelwch. Ond, i finnau, mae’r gân ‘Sebona fi’ gan Yws Gwynedd yn fwy na dim ond ffordd i lenwi tawelwch. 

Mae’r gân wedi’i lleoli o fewn nghanol y byd cerddoriaeth Cymraeg. Yn 2017, wnaeth Sebona fi cyrraedd brig siart #40Mawr Radio Cymru, ac yn 2019 wnaeth y cân cyrraedd y 10 cân Gymraeg sydd wedi’u ffrydio mwyaf ar Spotify. Ynghyd a hynny, maent yn gân sydd wedi cael ei berfformio ardraws y gwald – gan gynnwys digwyddiadau megis Maes B a Tafwyl. Ymhellach na hynny, wnaeth y band ennill y wobr ‘Band Gorau’ o fewn Gwobrau’r Selar yn 2018. 

Efallai, na fydd y gân yn medru cynnig rhywbeth i bawb sydd yn eu gwrando arno, ond mae’r melodi ynghyd a’r geiriau yn atgyfnerthu teimladau o hapusrwydd ac undod o fewn awyrgylch sydd yn adlewyrchu amserau da o dan yr haul gyda ffrindiau.  Ynghyd a hynny, maent yn atgyfnerthu’r hwyl sydd yn eiconograffig o’r haf ac maent yn galluogi’r gwrandawyr i fedru lleoli ei hunan o fewn atgofion a theimladau sydd felly yn magu hiraeth am y dyddiau da. 

Am gân sydd yn ddechrau gan ein lleoli o fewn awyrgylch positif, maent yn arwain ni ar daith trwy’r atgofion o amserau da ac mae’n ein hannog i fod yn rhan o’r daith – “Dos am dro reit drost y môr”. Yn fwy n hynny, mae’r gân yn atgyfnerthu themâu o ddim pryderon a chydymdeimlad trwy sicrhau i’r rhai sydd yn gwrando arno, nad oed unrhyw beth i boeni amdan, maent yn hybu cydymdeimlad a theimladau o ryddid ynghyd ag ymlacio. Mae’r themâu yma yn rhedeg trwy’r gân o’r ddechau i’r ddiwedd ac mae’r geiriau bron yn ceisio siarad â phawb sydd yn ei wrando arno gan sôn am sut yr ydym ni yn medru diweddu yn yr un safle, felly does dim ots beth rydych chi’n wneud yn fywyd os nad ydych yn ei fwynhau. Neges sydd yn fy marn i, yn bwysig iawn - 

“Cos da ni gyd yn rhedeg fel rhyw lygod mawr

Os gen ti hanner awr sebona fi

A cofia’r un hen bethau sydd yn boeni pawb

On pridd yn y pendraw yda ni”

Mae’r eirfa sydd yn cael eu defnyddio trwy gydol y gân yn magu dealltwriaeth o sut nad oes angen poeni am y pethau bach, ynghyd a sut weithiau mae angen i ni fel cymdeithas cymryd amser i eistedd i lawr ac arafu gan fod bywyd yn symud mor gyflym. Wedi’r cyfan, “fydd pob un dim yn iawn, os ti’n cysgu trwy’r prynhawn”. 

Nad ydy pwrpas y gân yma wedi’i selio ar nodweddion neu neges gymhleth, maent yn pwysleisio’r pwysigrwydd sydd gan yr agweddau syml o fwynhau bywyd, a sut mae hynny yn medru arwain at fyw bywyd gwell – “clyw dim byd i agor dy fyd”. Mae’r pwyslais yma yn enghraifft o sut mae’r gân yn adlewyrchu’r hyn sydd angen ar bawb; amser i: 

“Blas y grawnwin yn gryf yn y gwin a'rCwmni'n dda”

Wrth gwrs, mae rhaid i ni ystyried sut efallai nad ydy’r gân yn un sydd gyda neges wrthrychol, maent yn cyflwyno cyfleoedd i’r gwrandawyr i fedru dyfeisio ystyr eu hunan. Yn yr achos hwn, mae’r cysyniad o flasu’r gwin a chysgu trwy’r prynhawn yn atgyfnerthu’r hyn sydd yn bwysig i’r band – ac felly, fe allwch adnabod yr hyn sydd yn cael eu sôn trwy gydol y cân fel agweddau goddrychol. I rai, fe gall y nodweddion fel y gwin a.y.b.. cynrychioli unrhyw beth sydd yn cynhyrchu teimlad o hapusrwydd, neu sydd yn eich galluog i gymryd saib o fywyd prysur. Yn fwy na hynny, mae’r gân yn adlewyrchu pa mor bwysig ydy fedru cymryd saib, hyd yn oed os ydy saib yn golygu cymryd “hanner awr” i fedru edrych yn ôl eich hunan. Mae’r gân yn eich annog i gofio’r hyn sydd yn gwneud chi’n hapus, a sicrhau fod gennych yr amser i wneud yr hyn sydd yn nodweddiadol o gynhyrchu llawenydd.

Ynghyd a’r gân ei hunan, mae cyfansoddiad y fideo hefyd yn atgyfnerthu’r nodweddion sydd wedi cael eu dadansoddi uchod. Mae pob golygfa o fewn y fideo yn adlewyrchu’r hyn sydd yn cynrychioli hapusrwydd i’r band, ac wrth gwrs, mae hynny’n cynnwys dychwelyd i Gaerdydd i chwarae gig yng Nghlwb Ifor Bach. 

Gan Tezni Grace Bancroft-Plummer.

Teznigbp@gmail.com